Bookmark and Share

icon
icon
icon

Y lleoliad perffaith i ddarganfod Eryri a Môn

Gwyliau Fferm Cwellyn Farm

Manylion Cyswllt

Fferm Cwellyn
Rhyd Ddu
Caernarfon
Gwynedd
LL54 7YS

[ff] 01766 890496
[s] 07903212023
[e] cliciwch yma

Beudy Fferm Cwellyn Farm

“Beudy” Fferm Cwellyn wifi

Lleolir yr eiddo o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ar yr A4085 rhwng Caernarfon a phentref hyfryd Beddgelert

Mae’r Beudy yng nghlwm a’r ty fferm Cwellyn sydd mewn man delfrydol os am wyliau yn y wlad. Amgylchynnir yr eiddo gan gaeau ac i gefn yr eiddo mae’r Wyddfa a ‘r Rheilffordd yr Ucheldir.

O flaen yr eiddo gwelir Llyn Cwellyn a Mynydd Mawr yn ei holl ogoniant.

Dyma le delfrydol os am ymgymryd a gweithgareddau megis cerdded mynyddoedd, pysgota, beicio,gwylio adar, arlunio neu ganwio.

Mae mynyddoedd Eryri a’u amrywiol lwybrau o fewn cyrraedd i’r eiddo, hefyd y fforestydd a’r llynoedd.

Os am ymweld a thraethau ceir Dinas Dinlle, Cricieth a Morfa Bychan o fewn tua 8 milltir.

Mae trefi Caernarfon, Porthmadog a phentref Portmeirion a gynlluniwyd gan Syr Clough Williams Ellis yn lle diddorol i dreulio diwrnod.

Efallai nad ydych am grwydro, os hynny gallwch ymlacio’n llwyr trwy aros o gwmpas y Beudy ac eistedd ar ben y bryn bach tu ol i’r eiddo a gwerthfawrogi y golygfeydd godidog o’ch cwmpas.